![]() |
Medi / Hydref 2007 Yn ogystal â‘r telynor a‘r bardd yr oedd y Storiwr
|
September / October 2007 Each community has at least one storyteller
|
| Cefndir | |
Er mai Albanwr yw e o ran ei fagwraeth, cydnabyddir Michael bellach fel ein prif Gyfarwydd. Ond er ei fod wedi hen arfer â difyrru cynulleidfaoedd ar draws cyfandir Ewrop, y bartneriaeth â Gwyl y Cyfarwydd sydd wedi ei gyflwyno i Geredigion, un o gadarnleoedd y Cyfarwydd (y Storiwr) Bro. Medd Michael: ‘Mae crefft y Cyfarwydd yn dal yn fyw iawn yn siroedd y gorllewin. Dwi wrth fy modd yn dod yma nid yn unig i wneud fy rhan wrth geisio cadw straeon mawr y Mabinogion yn fyw, ond hefyd wrth wylio a gwrando-ar a dysgu oddi wrth y cyfarwyddiaid naturiol – hen ac ifanc – sy’n rhan o fywyd cefn gwlad yr ardal. Heb os, maent yn rhan amhrisiadwy o gyfoeth diwylliannol Ceredigion.’ Mi fydd Michael yn adrodd y stori gyntaf yn y gyfres y tu fas i Gapel Penparc, ger Aberteifi (tu fewn, os bydd y tywydd yn ddiflas). Saif y capel o fewn tafliad carreg i Fanc y Warrin, y bancyn porfa-a-thywod amlwg sy’n safle’r stori wreiddiol, yn ôl yr arbenigwyr. Medd Cyfarwyddwr yr wyl, Euros Lewis: ‘Dyma beth yw digwyddiad cyffrous: un o storiwyr gore’r byd yn adrodd un o storiau gore’r byd yn yr union fan a’r lle. Dyma beth yw hud a lledrith!’ Yn naturiol, mi fydd Michael yn adrodd y straeon yn y Gymraeg. Ond mi
fydd ffrindie nad y’n nhw’n rhugl yn gallu dilyn pob gair â chymorth
y tîm o gyfieithwyr ar y pryd sydd wedi ennyn clod cynulleidfaoedd
y ddwy wyl a gynhaliwyd eisoes.
|
![]() |
![]() |
Mae Cyfres y Mabinogion hefyd yn rhan o Daith Dathlu Cwmni Cydweithredol Troed-y-rhiw, taith a fydd yn ymweld â chymdogaethau ledled Cymru gan berfformio tri chynhyrchiad o fewn ystod o chwech wythnos. Mi fydd Cwmni Troedyrhiw hefyd yn teithio cymdogaethau yn siroedd Taf-Elai, Caerfyrddin, Penfro, Powys a Gwynedd yn ystod mis Medi a mis Hydref yn cyflwyno LINDA (GWRAIG WALDO) gan Euros Lewis a MEINI GWAGEDD, clasur J. Kitchener Davies. Mae manylion llawn ar gael oddi wrth swyddfa’r cwmni (01570 471328 / swyddfa@theatrtroedyrhiw.com) neu Theatr Felin-fach (01570 470697)
|
| gwyl@ycyfarwydd.com | 01570 471328 | d/o Swyddfa Wes Glei, Campws Felin-fach, Dyffryn Aeron, Ceredigion, SA48 8AF |
Safle Wê gan |